Ymarfer, Cymdeithion
Cafodd Robbie ei fagu yn Innisfail, ac, yn bedair oed, dechreuodd gael hyfforddiant dawns gyda’r Graham Academy of Dance. Yn 2008 symudodd i Melbourne, lle y bu’n astudio gyda Ballet Theatre Australia ac ysgolion a sefydliadau eraill. Dychwelodd Robbie i Queensland yn 2013 i gwblhau ei hyfforddiant gyda Rhaglen Gyn-broffesiynol Queensland Ballet.
Yn 2014, ymunodd Robbie â Ballet Cymru. Ac yntau’n rhan o'r prif gwmni, mae’n teithio’n helaeth yn y DU gyda phob un o gynyrchiadau'r cwmni. Yn 2018, enwebwyd Robbie ar gyfer y ‘Dawnsiwr Gwrywaidd Gorau’ yng Ngwobrau Theatr Cymru, a hynny am ei rôl yng nghynhyrchiad Tim Podesta, Shadow Aspect.
Tra oedd gartref yn Awstralia yn 2017, gofynnwyd i Robbie berfformio gyda'r Melbourne Ballet Company a helpu i feirniadu The Australasian Ballet Challenge.
Mae Robbie yn gweithio mewn ffordd gynhwysol gyda dawnswyr a choreograffwyr abl ac anabl, fel ei gilydd, ac mae hyn wedi cynnwys gweithio gyda Marc Brew yn Stuck in the Mud a Suzie Birchwood yn Perfect Balance. Mae’n gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr trwy fod yn rhan o dîm addysg Ballet Cymru sy’n darparu gweithdai, dosbarthiadau a hyfforddiant ledled y DU.
Aelodau Eraill o Staff
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU