Mynediad a Chynhwysiant
Daeth Louise i gysylltiad â Ballet Cymru am y tro cyntaf yn ystod cyrsiau Dawns Haf Cymru pan oedd hi’n 14 oed ac yn hyfforddi yn rhan o Cecchetti Ballet gyda Carol Goode. Aeth ymlaen i astudio cwrs BA Anrhydedd yn Ysgol Dawns Gyfoes Llundain a gradd Meistr mewn Perfformio Dawns yn Laban, fel rhan o Gwmni Dawns Transitions. Ers graddio yn 2015, mae Louise wedi gweithio fel perfformwraig lawrydd ac arweinydd dawns gymunedol â Rubicon Dance. Mae Louise yn perfformio’n rheolaidd gyda Kitsch & Sync Collective, sy’n caniatáu iddi archwilio eu harddull perfformio rhyfedd o hynod.
Ymunodd Louise â Ballet Cymru yn 2018, ac ers hynny mae hi wedi arwain nifer o brosiectau allgymorth ar ran Ballet Cymru, gan gynnwys Dawns Haf Cymru, gwersyll Dawns Haf cynhwysol, dosbarthiadau dawns cynhwysol wythnosol, dosbarthiadau ballet i oedolion, cynlluniau preswyl mewn ysgolion, perfformiadau codi’r llen, Strictly Cymru mewn partneriaeth â Leonard Cheshire a Phlant mewn Angen, Dawnsio i Symud mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, a nifer o weithdai a chyfleoedd eraill. Mae Louise yn sbarduno cenhadaeth Ballet Cymru i hybu cynhwysiant mewn ballet ac mae hi’n gweithio yn awr ar yr ychwanegiad diweddaraf ar daith, sef perfformiadau hamddenol, yn ogystal â theithiau cyffwrdd a pherfformiadau â disgrifiad sain. Louise hefyd yw arweinydd ballet Rhaglen Duets yn Ne Cymru.
Yn ei horiau hamdden, mae Louise yn dysgu dosbarthiadau ffitrwydd BarreConcept, yn hyfforddi mewn Kung Fu, ac mae hi’n dwlu dianc i’r traeth bob cyfle posibl.
Aelodau Eraill o Staff
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU