Gweinyddwr
Mae Jenny wedi ymddiddori’n angerddol mewn ballet a dawns ers oedd hi’n 5 mlwydd oed pan ddechreuodd fynd i ddosbarthiadau ballet er mwyn cryfhau a ffyrfhau ei chyhyrau ar ôl torri’i choes ar ddamwain.
Ar ôl graddio yn y celfyddydau o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, gweithiodd Jenny mewn nifer o rolau gweinyddol â chyrff creadigol, a oedd yn amrywio o benseiri i asiantaethau dylunio, a bu’n Swyddog Gweinyddu i India Dance Wales cyn ymuno â Ballet Cymru yn 2011.
Fel Gweinyddwr, mae ei rôl yn cynnwys rheolaeth ariannol, systemau adnoddau dynol, trefniadau llogi’r stiwdio a chynorthwyo’r Cyfarwyddwyr Artistig â gweithrediadau a phrosiectau’r cwmni.
Mae Jenny hefyd yn awyddus i helpu Ballet Cymru i ddod yn fwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar, gan ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy a mentrau ‘Gwyrdd’ eraill i leihau ôl troed carbon y sefydliad, wedi’i gyfuno â’i diddordeb personol mawr mewn dillad vintage ac ailgylchu
Aelodau Eraill o Staff
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU