Rheolwr Cwmni
Dechreuodd Mike ei yrfa yn y busnes adloniant ffilm ar ddechrau'r 1970au ac roedd yn ddigon ffodus i weithio ar rai ffilmiau mawr gydag enwau adnabyddus fel "Death Wish" gyda Charles Bronson a "Scorpio" gyda Burt Lancaster, a gyfarwyddwyd gan Michael Winner. Ar ôl 3 blynedd newidiodd ei gyfeiriad a dechreuodd reoli storfa recordiau annibynnol yn West End Llundain. Ymhlith y cwsmeriaid oedd Elton John, Stewart Grainger, Leo Sayer, Alec Guinness a Charlie Watts, i enwi ond ychydig.
Ar ddechrau'r 1980au symudodd Mike yn ôl i gartref ei blentyndod yn Ventnor ar yr Isle of Wight a dechreuodd ar swydd reoli yn y theatr yno am 7 mlynedd nes i gyfarfod cyfle gyda hen ffrind fynd ag ef ar ei antur nesaf. Yr hen ffrind oedd y cerddor roc Rick Wakeman! Ymunodd Mike â chriw Rick yn 1988, gan fynd drwy'r rhengoedd i ddod yn rheolwr taith Rick tan ganol y 2000au.
Parhaodd Mike i deithio gyda bandiau amrywiol gan gynnwys Asia a Slade tan 2010 pan ddaeth Mike ar draws hysbyseb ar gyfer cwmni ballet yn Ne Cymru yn chwilio am dechnegydd teithiol. Cysylltodd â Darius, y Cyfarwyddwr Artistig, ac fe'i gwahoddwyd am gyfweliad. Mae Mike bellach wedi bod gyda Ballet Cymru ers bron i 11 mlynedd ac nid oes ganddo unrhyw gynlluniau i symud ymlaen i unrhyw beth arall!
Y tu allan i'r gwaith mae gan Mike ddiddordeb mewn cerddoriaeth, ffotograffiaeth a rasio moduron F1. Mae ganddo dair merch, dwy wyres ac ŵyr.
Aelodau Eraill o Staff
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU