Wrth wraidd cenedl greadigol
Amdanom ni
Mae Ballet Cymru yn Gwmni Ballet Teithiol Rhyngwladol Dros Gymru sydd wedi ymrwymo i gynhwysiant ac arloesedd mewn dawns a ballet clasurol, ac i'r safon uchaf o gydweithio. Mae ei rhaglen Mynediad ac Allgymorth helaeth wedi ymrwymo i chwalu'r rhwystrau i gael mynediad i'r celfyddydau.
Daeth Ballet Cymru yn gleient Refeniw i Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2011.
ENILLWYR
ENILLWYR
Gwobrau Dawns Cenedlaethol Circle UK, Gwobr Cynulleidfa 2006
ENWEBIADAU
Gwobr Dawns Genedlaethol Circle UK i'r Cwmni Annibynnol Gorau 2012, 2014, 2015
Derbyniodd y Cyfarwyddwr Artistig Darius James OBE yn 2019 am wasanaethau i Ballet a Dawns Gymunedol ac mae'n cyfarwyddo'r cwmni ochr yn ochr â'r Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol Amy Doughty a oedd yn Gymrawd JADE Sefydliad Paul Hamlyn ac yn arwain gwaith addysg cynhwysol arloesol y cwmni.
Ymhlith noddwyr y cwmni mae Cerys Matthews MBE a'r cyn Delynores Frenhinol Catrin Finch, sydd hefyd yn cydweithio ar waith.