Cyfarwyddwr Artistig
Mae Darius yn dod o Gasnewydd ac wedi'i hyfforddi yn Ysgol y Ballet Frenhinol. Bu'n dawnsio ac yn teithio'n helaeth gyda Northern Ballet, Alexander Roy London Ballet Theatre ac fel artist gwadd gyda sawl cwmni.
Mae wedi darlithio yng Ngholeg Pont-y-pŵl ac yng Ngholeg Abertawe, ac wedi bod yn athro gwadd ac yn ddyfarnwr i Gymdeithas Cecchetti.
Darius yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru ac mae wedi coreograffu llawer o gynyrchiadau un act a hyd llawn i'r cwmni.
Yn 2008 derbyniodd Darius Wobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a gyflwynwyd iddo gan Rhodri Glyn Thomas AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth.
Mae Darius wedi ymddangos yn Who's Who ers 2012 ac fe'i gwnaed yn Is-lywydd Anrhydeddus Cylch Bale Llundain yn 2013.
Yn 2019 derbyniodd OBE am Wasanaethau i Ballet a Dawns Gymunedol.
Aelodau Eraill o Staff
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU