Cyfarwyddwr Artistig - Ymgysylltu a Hyfforddiant
Hyfforddodd Amy yn Awstralia, gan ennill ei thystysgrif Solo Seal (RAD) a Diploma mewn Dawns. Ymunodd â Ballet Cymru ym 1996 a dawnsiodd amrywiaeth o rolau gyda'r cwmni, gan ddod yn Ballet Mistress yn 2001 a Swyddog Addysg yn 2006. Yn 2009 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Dawns mewn Addysg Jane Attenborough iddi drwy Sefydliad Paul Hamlyn a daeth yn Gyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol Ballet Cymru yn 2012.
Mae Amy yn addysgu ac yn coreograffu ledled y DU ac yn rhyngwladol, ac yn 2009 cwblhaodd BA mewn Saesneg a'r Celfyddydau Creadigol. Mae wedi cyhoeddi erthyglau ar gyfer y cylchgronau Dance Europe a Dance Australia, yn ogystal â drama a ysgrifennodd yn 2009.
Mae Amy wedi coreograffu a chydgoreograffu nifer o weithiau i'r cwmni, ac, yn 2012, derbyniodd Ddiploma mewn Addysgu a Dysgu Dawns trwy DTAP a Choleg y Drindod Llundain.
Mae Amy yn goruchwylio rhaglenni addysg dawns Ballet Cymru, ac yn cyflwyno gwaith yn rheolaidd i ddawnswyr proffesiynol a graddedig, yn ogystal ag at rhai sy’n anelu at fod yn ddawnswyr neu yn newydd i ddawns. Mae Amy wedi bod yn Asiant Creadigol ar raglen Cyngor Celfyddydau Cymru, sef Dysgu Creadigol Trwy'r Celfyddydau, a gan fod ganddi ddiddordeb arbennig mewn ymarfer ballet sy'n gynhwysol, gweithiodd gyda GDance ar Dance Unstuck, prosiect ymchwil a datblygu sy'n galluogi amrywiaeth ehangach o ddawnswyr i gael mynediad at hyfforddiant ballet. Ar hyn o bryd, mae Amy'n chwarae rhan mewn nifer o brosiectau sy'n hwyluso newid yn y modd y mae ballet, dawns a'r celfyddydau'n cael eu canfod a'u cynrychioli, ac mae'n llawn brwdfrydedd ynglyn â chynyddu mynediad a chynhwysiant yng ngwaith Ballet Cymru.
Aelodau Eraill o Staff
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU