Dwy Stiwdio Hardd

Llogi Stiwdio

Stiwdio un

Mae STIWDIO UN yn cynnwys llawr ddawns bren sbonciog Harlequin 'Liberty' wedi'i orchuddio gan arwyneb ddawns finyl 'Cascade', yn mesur 196 metr sgwâr (14m x 14m).Mae'r stiwdio'n gwbl hygyrch ac mae'n elwa o olau dydd naturiol ac aerdymheru. Mae'n lle hardd ar gyfer gwaith dawns creadigol a digwyddiadau sy'n gysylltiedig â dawns; mae sefydliadau dawns gan gynnwys RAD a Cecchetti yn archebu'r stiwdio fisoedd ymlaen llaw, ac mae' stiwdio wedi cael ei ddefnyddio i gyflwyno amrywiaeth enfawr o sesiynau gan gynnwys gweithdai agored i ddod o hyd i ddawnswyr ifanc talentog ar gyfer Lord of the Flies Matthew Bourne.

Stiwdio Dau

STIWDIO DAU yw ein stiwdio newydd sbon. Mae hi ychydig yn llai, ond mae ganddi wal o ddrychau a ballet barres parhaol.

Cysylltwch â ni am brisiau ac argaeledd