

Dawnsiwr
Cafodd Sanea ei geni a’i magu yn India. Am bedair blynedd, bu’n perfformio, yn addysgu ac yn teithio’n rhyngwladol gyda Shiamak Davar International, sydd wedi'i leoli ym Mumbai. Yna, symudodd i’r DU yn 2014 i astudio dawns yn y Liverpool Institute for Performing Arts (LIPA), gan gwblhau ei hyfforddiant yn 2017 a symud ymlaen i’r Rhaglen PEER yn Studio Wayne McGregor yn Llundain. Yno, cafodd y cyfle i roi rhagor o gymorth i ddawnswyr Company Wayne McGregor, mewn amryw o weithdai a gynhaliwyd gan y cwmni yn ystod eu taith o amgylch India yn 2017.
Yn dilyn y Rhaglen PEER, ymunodd Sanea â’r Diploma Datblygiad Proffesiynol JV2 yn 2018, lle y bu’n gweithio gyda’r coreograffwyr David Lloyd, Maria Doulgeri a Jasmin Vardimon ar gyfer eu taith genedlaethol o amgylch y DU yn 2019. Yn fuan wedi iddi gwblhau’r rhaglen JV2, daeth Sanea yn hwylusydd addysg ar gyfer y Jasmin Vardimon Company. Ers hynny, mae wedi gweithio gyda Mischief Company, Alexander Whitley, a ZooNation; fel un o’r dawnswyr yn y ffilmiau Everybody’s Talking about Jamie.
Roedd Sanea yn Gyfarwyddwr Ymarfer i ail-gread y darn Neverland ar gyfer ‘The Collective’, cwmni ôl-raddedig yn Dance City, Newcastle.
Yn ei rôl fel ddawnswraig, mae Sanea yn mwynhau integreiddio ei chefndir dawnsio amlochrog i greu syniadau symud newydd, ffres a all herio ac ysbrydoli cynulleidfaoedd. Ymunodd Sanea â Ballet Cymru yn 2020.
Dawnswyr Eraill
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru UK