Dawnsiwr
Dechreuodd fy nhaith ddawns yn Llantrisant yn ysgol dawns Kim Bardsley, ac yn 11 oed ymunais â Rhaglen Cyswllt Ballet Cymru. Roeddwn wrth fy modd yn astudio ar gyfer fy arholiadau RAD a pherfformio ym Mhorthcawl gyda Kim, a hyfforddi bob mis gyda Ballet Cymru fel cydymaith am 7 mlynedd. Yn 2014 roeddwn i'n ddigon ffodus i berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o gast ifanc Lord of the Flies, Matthew Bourne, a oedd yn brofiad hynod werthfawr a gwerth chweil. Cefais fy ysbrydoli gan fy athrawon ballet Kim a Kelly, a gan ddawnswyr proffesiynol Ballet Cymru a New Adventures.
Yn 2018 dechreuais fy hyfforddiant yn Ysgol Ballet a Dawns Gyfoes Rambert. Wrth astudio yn Rambert cefais hyfforddiant helaeth mewn technegau Ballet a Chyfoes gan gynnwys Cunningham, Graham, a Release. Gwnaethom hefyd astudio darnau repertoire, solos a phartnerio. Yn fy mlwyddyn gyntaf cefais gyfle anhygoel hefyd i berfformio fel rhan o'r cast ifanc yn Romeo and Juliet Matthew Bourne. Yn y drydedd flwyddyn, gwnaethom berfformio ein sioeau i raddedigion yn Theatr Linbury yn y Tŷ Opera Brenhinol, ac yn The Point yn Eastleigh. Roeddwn hefyd yn gallu datblygu fy sgiliau fel athrawes ddawns yn The Point, lle gwnes i baratoi a dysgu gweithdy dawns cyfoes diwrnod llawn ar gyfer Cwmni Dawns Ieuenctid Hinckley.
Fel myfyriwr graddedig, rwyf wedi gweithio gyda Krystal Lowe yn ystod wythnos archwilio, wedi creu ffilm fer i fyfyrwyr PDC gyda Poise Dance ac wedi perfformio gyda NYDW yn Twenty Tales gan Marcat Dance.
Fel siaradwr a dawnsiwr Cymraeg balch, rwyf wrth fy modd yn ymuno â Ballet Cymru fel gweithiwr proffesiynol.
Dawnswyr Eraill