

Dawnsiwr
Ganwyd Jakob yn Birmingham, y DU. Dechreuodd ddawnsio yn wyth oed trwy raglen allgymorth Birmingham Royal Ballet, Dance Track, ac aeth yn ei flaen i helpu i greu Dance Track Plus. Bu’n hyfforddi yno ochr yn ochr â’r rhaglen Cymdeithion Iau tan oedd yn 11 oed. O’r fan honno, aeth ymlaen i hyfforddi’n llawn-amser yn Elmhurst Ballet School, sydd hefyd yn Birmingham, lle y bu’n astudio nifer o arddulliau dawns, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ballet clasurol a dawns gyfoes. Aeth ati hefyd i ddysgu chwarae’r piano, ac mae wrth ei fodd yn cyfansoddi. Daeth Jakob yn brif fachgen, ac ymddiddorodd mewn coreograffi ar ôl cael ei anafu yn ei ail flwyddyn yn y chweched ddosbarth. Yn ei ddwy flynedd olaf aeth ati i goreograffu dau ddarn: Fifty Percent ac You Never Know. Perfformiwyd y darn olaf yn sioe'r Elmhurst Ballet Company, Synergy. Perfformiodd Jakob nifer o ddarnau eraill yn y sioe hon hefyd, gan gynnwys Checkmate gan Ninette de Valois, Multivox gan Studio Wayne McGregor, fersiwn Syr Peter Wright o Swan Lake pas de trois, a Tweedledum and Tweedledee gan Syr Frederick Ashton.
Yn haf 2019, daeth Jakob yn aelod o Man Made Youth Company, sydd wedi'i leoli yn y Midlands Art Centre, a chymerodd ran yn nigwyddiad lansio’r cwmni. Dawnsiodd gyda’r cwmni mewn sawl preswyliad a pherfformiad, gan gynnwys ymateb i waith celf a gomisiynwyd yn MAC: All this Mayhem, ac roedd yn rhan o'r prosiect perfformiad digidol INTER_ACT.
Ballet Cymru oedd cwmni proffesiynol cyntaf Jakob pan ymunodd ar ôl graddio o Elmhurst yn haf 2020.
Dawnswyr Eraill
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru UK