Dawnsiwr
Yn 2009, dechreuodd Isobel yn Elmhurst Ballet School, gan hyfforddi mewn ballet, dawns gyfoes, fflamenco a jazz. Yn 19 oed, graddiodd â diploma mewn dawns broffesiynol, ac fe ennillodd wobr am wneud y cynnydd fwyaf yn ei dosbarth dros ei hamser fel fyfyrwraig.
Ym mis Medi yr un flwyddyn, mynychodd Isobel raglen gyn-broffesiynol Ballet Cymru, lle y gallodd barhau â’i hyfforddiant a chael cyfle i berfformio ochr yn ochr â’r cwmni ar yr un pryd. Wedi iddi gwblhau’r rhaglen, ymunodd â’r cwmni yn ddawnswraig broffesiynol. Ers hynny, mae wedi bod ar sawl daith o amgylch y DU ac wedi perfformio’n rhyngwladol gyda Ballet Cymru.
Yn ddiweddar, mae hi wedi ymddangos mewn cynhyrchiadau megis: Cinderella, A Child’s Christmas in Wales, a Romeo and Juliet. Yn ogystal â pherfformio, mae Isobel yn helpu gyda’r gwaith addysg yn Ballet Cymru, yn enwedig y rhaglen Duets, gan weithio gyda phlant ledled Cymru.
Dawnswyr Eraill
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU