Dawnsiwr

Jacob Hornsey

Am Jacob

Ganwyd Jacob yn Hexham, y Deyrnas Unedig, a bu'n hyfforddi mewn ballet ers yr oedd yn saith oed. Cyfunodd ei hyfforddiant yn Northern Ballet, Leeds, fel Cydymaith, â’i gyfnod yn Fyfyriwr CAT yn Dance City yn Newcastle, lle parhaodd i wella ei sgiliau fel dawnsiwr clasurol ac i ddatblygu amrywiaeth ehangach o arddulliau dawns, megis cyfoes a modern. 

Wedyn, mynychodd Jacob hyfforddiant llawn-amser yn y Royal Conservatoire of Scotland o 2014 i 2017, lle cwblhaodd cwrs gradd tair blynedd a arweiniodd at BA mewn Ballet Modern ym mis Mehefin 2017. Yna, cymerodd ran mewn rhaglen ôl-raddedig yn Northern Ballet yn Leeds, gyda’r cyfle i ddawnsio â chwmni Northern Ballet, gan ddirprwyo ar gyfer rolau amrywiol yng nghynyrchiadau'r cwmni o Gloria a Concerto gan Syr Kenneth MacMillan, a'r ballet i blant, Ugly Duckling. 

Yn ddiweddarach, derbyniodd Jacob gontract Unawdydd gan Opera Gwladol Ruse ym Mwlgaria, lle rhoddwyd iddo nifer o rolau Unawdydd gwych, megis Rothbart yn Swan Lake, Espada yn Don Quixote, Hilarion yn Giselle, a llawer mwy. Roedd y profiadau yma yn hanfodol ac yn meithrin cymeriad ar gyfer adegau pan fyddai ar y llwyfan yn y dyfodol. Yn 2019-20, derbyniodd Jacob gontract Corps de Ballet gan Ballet Theatre UK, lle y bu'n teithio ledled y DU yn perfformio Wizard of Oz a Giselle. Wedi hynny, cafodd gontract Unawdydd a Corps de Ballet gyda chwmni Ballet Opera Gwladol Plovdiv ym Mwlgaria, lle y bu'n perfformio rolau mawr megis Solor a Golden Idol o La Bayadère a The Nutcracker Prince. Erbyn hyn, mae wedi dechrau ar gontract dawnsiwr gyda Ballet Cymru ers mis Ebrill 2022. 

Mae Jacob wedi manteisio ar bob cyfle i berfformio. Mewn cydweithrediad â Ballet L'Orent, perfformiodd dau ddarn yn rownd derfynol Gŵyl U Dance yn 2013. Wedi hynny, yn ogystal â pherfformio mewn amryw o gynyrchiadau yn y Royal Conservatoire of Scotland, Scottish Ballet a Teatrul de Balet Sibiu, ym mis Mawrth 2016 perfformiodd Wit’s fir ye gan Jamiel Lawrence (Unawdydd gyda Scottish Ballet) yn Dumfries House ar gyfer Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Yn 2017 roedd hefyd wedi perfformio ym mherfformiad Teatrul de Balet Sibiu o Nutcracker yn teithio o amgylch De Corea a Sibiu, Romania. 

Dawnswyr Eraill

Kamal Singh
Dawnsiwr
Mika George Evans
Dawnsiwr
Ryan Ap Tomos
Dawnsiwr
Caitlin Edgington
Dawnsiwr
Gwenllian Davies
Dawnsiwr
James Knott
Dawnsiwr
Isobel Holland
Dawnsiwr
Jacob Hornsey
Dawnsiwr
Jakob Myers
Dawnsiwr
Sanea Singh
Dawnsiwr