

Dawnsiwr
Dechreuodd Caitlin ei hyfforddiant ballet yn ddeg oed yn Ysgol Ballet Barinowsky yng Nghaerdydd. Dechreuodd ei thaith gyda Ballet Cymru yn 2012 pan fynychodd Rhaglen Cydymaith y cwmni am bedair flynedd. Cymerodd ran hefyd yn rhaglenni Dawns Haf Ballet Cymru, a bu'n perfformio yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd.
Yn 2017, dechreuodd Caitlin ei hyfforddiant mewn ballet, dawns gyfoes a jazz yn Ballet West Scotland, lle cafodd brofiad yn perfformio ballets llawn ar hyd a lled yr Alban ac yn rhyngwladol. Perfformiodd Caitlin ym mherfformiad cyntaf Swan Lake yn Genting, Malaysia gyda Chwmni Teithio Rhyngwladol Ballet West. Tra roedd hi yn Ballet West, cafodd Caitlin ei dewis i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Ballet Ryngwladol Genée 2019 yng Nghanada, ac roedd ymhlith 12 yn unig yn y rownd derfynol i gael eu dewis i berfformio yn y Four Seasons Centre for the Performing Arts, Toronto. Graddiodd yn 2020 gyda Gradd BA (Anrhydedd Dosbarth Cyntaf) mewn Ballet.
Ymunodd Caitlin â Rhaglen Gyn-broffesiynol Ballet Cymru yn 2021, a galluogodd hynny iddi gymryd ei hyfforddiant ymhellach wrth gael cyfle i berfformio ochr yn ochr â'r cwmni ar eu taith hydref o Giselle. Ymunodd â'r cwmni yn ddawnsiwr proffesiynol yng ngwanwyn 2022.
Dawnswyr Eraill
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru UK