Rydym yn eich croesawu i ymuno â ni yr haf hwn yng Nghanolfan Theatr a Chelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd. Mae gennym amrywiaeth o gyrsiau ballet i siwtio dechreuwyr ifanc hyd at lefel broffesiynol, ac mae ein cwrs cynhwysol yn cynnig profiad dawns hwyliog a chreadigol. Bydd yr holl gyrsiau yn cael eu harwain gan ddawnswyr, cyfarwyddwyr neu athrawon gwadd y cwmni a bydd pob wythnos yn gorffen gyda pherfformiad ar y prif lwyfan sydd am ddim i'w fynychu.
Mae Ysgol Haf Ballet Rhyngwladol Cymru yn rhoi cipolwg i ddawnswyr graddedig a phroffesiynol ar Ballet Cymru fel cwmni a'r gwerthoedd a'r rhinweddau rydym yn anelu at eu cyflawni.
Rydyn ni'n gobeithio mwynhau'r dawnsio haf yma gyda chi!
"Diolch o galon am wythnos mor anhygoel, dwi wedi caru pob munud ac wedi dysgu cymaint y bydda i'n ei gymryd i ffwrdd â mi. ... Rwy'n ddiolchgar iawn fy mod wedi gallu cymryd rhan yn yr hyn sydd wedi bod yn wythnos mor hwyliog a heriol!"
Cyfranogwr WIBSS 2022.
Mwy o Newyddion
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU