TIR

Albwm eiconig Cerys, Cerddoriaeth Werin Cymru, 'TIR' yw ysbrydoliaeth y coreograffwyr Darius James OBE ac Amy Doughty, sydd wedi defnyddio 11 o'r caneuon o'r albwm i greu gwaith unigryw yn arbennig ar gyfer dawnswyr Ballet Cymru.

Chwaraeodd Cerys ei hun y gerddoriaeth yn fyw ar lwyfan gyda'r cwmni mewn lleoliadau yng Nghasnewydd, Llundain a Chaernarfon yn 2012 ac eto yng Nghasnewydd yn 2013 ac mewn lleoliadau dethol yn 2015. Mae Cerys Matthews yn gantores/cyfansoddwr, aml-offerynydd, awdur a darlledwr Cymreig o fri ac edmygedd. Ym mis Mai 2013 derbyniodd Cerys Matthews Wobr Aur Sony Music am y Darlledwr Cerddoriaeth Gorau, ac ym mis Mehefin 2014 dyfarnwyd iddi MBE am ei gwasanaethau i gerddoriaeth. Mae Cerys yn un o noddwyr Ballet Cymru ac mae'n gefnogwr brwd gwaith y Cwmni.

Coreograffwyr:

Cyfansoddwr:

Dylunio Goleuadau:

  • Chris Illingworth

Cyd-gynhyrchiad Theatr Ballet Cymru/Riverfront Theatre

Mwy o Gynnwys:

Gweld y rhaglen