

Noddwr
Mae Cerys Matthews yn gantores/awdur caneuon, awdur a darlledwr ond yn wreiddiol hi oedd sylfaenydd y band roc Cymraeg Catatonia. Mae'n cynnal sioe gerddoriaeth fore Sul arobryn ar BBC Radio 6 Music, yn gwneud rhaglenni dogfen ar gyfer teledu yn ogystal â radio ac mae'n gyflwynydd i The Culture Show a The One Show. Enillodd Cerys aur yng Ngwobrau Academi Radio Sony 2013, gan ennill yng nghategori 'Darlledwr Cerddoriaeth y flwyddyn'.
Yn 2013 hefyd gwelwyd ei ymddangosiad cyntaf yn y Proms yn y Royal Albert Hall. Bu'n Gyfarwyddwr Artistig ar gyfer seremoni agoriadol Womex 2013 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd a oedd yn cynnwys Ballet Cymru.
Yn 2018 fe ysgrifennodd Cerys y sgôr gan adrodd cynhyrchiad Ballet Cymru o A Child’s Christmas gan Dylan Thomas.
Daeth Cerys yn Noddwr y Cwmni yn 2012 a gwobrwywyd MBE iddi ym mis Mehefin 2014 am ei gwasanaethau i gerddoriaeth.
Sylfaenwyr a Noddwyr Eraill
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru UK