Cadeirydd Ballet Cymru
Mae Jên wedi mwynhau gyrfa amrywiol, gan adeiladu portffolio o waith yn annibynnol yng Nghymru fel coreograffydd dwyieithog, hwylusydd gweithdai a chyfarwyddwr symud mewn addysg, cymuned, theatr a theledu, yn ogystal â rolau gyda sefydliadau dawns a chelfyddydol.
Cyn hynny, roedd Jên yn Gadeirydd Dros Dro Celfyddydau Anabledd Cymru, ac ar hyn o bryd mae'n Brif Swyddog Gweithredol gydag Artis Community Cymuned.
Penodwyd Jên yn Gadeirydd Ballet Cymru yn 2020.
Aelodau eraill o'r Bwrdd