Aelod o'r Bwrdd
Emma yw Rheolwr Trawsgrifio Cymru y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB), ac mae'n rheoli tîm sy’n cynhyrchu deunydd amlgyfrwng hygyrch gan gynnwys sain a braille. Mae ganddi 25 mlynedd o brofiad yn y sector gwirfoddol yn gweithio i elusen anabledd lle mae arloesedd yn hanfodol i gyflawni darpariaeth gynaliadwy. Mae’n llysgennad dros gyfle cyfartal a chynhwysiant, a thrwy ei gradd anrhydedd yn y Gymraeg, mae’n gyfathrebwr hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae Emma yn rheolwr profiadol, angerddol a chlir ei ffocws. Yn ei hamser hamdden, mae'n fwyaf hapus pan fydd i ffwrdd ger y môr yn ei fan wersylla neu'n treulio amser gyda'i hanwyliaid.
Aelodau eraill o'r Bwrdd