Coreograffydd Preswyl wedi'i ddewis i weithio gyda Phoenix Dance

Mae Ballet Cymru yn falch o ymuno â'r dathliadau wrth gyhoeddi bod Marcus Jarrell Willis wedi cael ei benodi'n gyfarwyddwr artistig newydd gyda'r Phoenix Dance Theatre yn Leeds. Mae Willis wedi bod yn goreograffydd preswyl gyda Ballet Cymru oddi ar 2021. Bydd ei rôl newydd yn dechrau'n swyddogol ym mis Hydref 2023, ac rydym wrth ein bodd ei fod am barhau â'i waith gyda'n sefydliad ni.

Dywedodd Willis: “Rwy'n teimlo'n freintiedig ac wrth fy modd o gael dechrau ar y daith newydd anhygoel hon gyda'r Phoenix Dance Theatre, gan ymuno ar adeg mor gyffrous i'r cwmni wrth iddo gychwyn pennod newydd. Rwyf hefyd yn teimlo'n gyffrous i barhau i feithrin fy mherthynas â Ballet Cymru. Mae gennyf obeithion mawr ac uchelgais i ddefnyddio fy llwyfan i feithrin cysylltiadau a pherthnasoedd cryfach rhwng Cymru a Lloegr, a sector dawns ehangach y DU.”

Mwy o Newyddion

Romeo a Juliet yn Dance City ym mis Rhagfyr
Ymddiriedolwyr newydd eisiau
Codwr Arian yr Ŵyl 2024: BALLET CYMRU 3
Dance Passion Abertawe
CYFLE SWYDD: SWYDDOG CYLLID