Ymddiriedolwyr newydd eisiau

DYDDIAD CAU WEDI'I ESTYN I DDYDD LLUN 12 IONAWAR 2026

Mae Ballet Cymru yn gwmni sydd â gweledigaeth ddeinamig ac enw da am ragoriaeth artistig ac arloesedd. Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i’n helpu i gyrraedd cynulleidfa gynyddol amrywiol ac i adlewyrchu’r sbectrwm eang o gymunedau yng Nghymru.

Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai sydd â lefel gadarn o arbenigedd a/neu sgiliau yn unrhyw un o'r canlynol:

  • Cyllid a Chyfrifyddu
  • Ymarfer Cyfreithiol a Rheoleiddiol
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Cyfathrebu yn Gymraeg/yn ddwyieithog
  • TG a chyfathrebu digidol
  • Rheoli yn y Trydydd Sector
  • Cysylltiadau â'r Gymuned
  • Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Cynaliadwyedd a Rheoli Amgylcheddol
  • Rheoli Pobl.

 

Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â bwrdd a thîm rheoli cyfeillgar a fydd yn darparu’r cymorth a’r cyfleoedd angenrheidiol i ddatblygu eich sgiliau arwain a llywodraethu.

Mae rôl yr Ymddiriedolwr yn un wirfoddol ond yn cynnig nifer o fanteision, yn cynnwys cyfleoedd ardderchog i ddatblygu eich sgiliau arwain busnes, yn ogystal â chefnogi elusen sy'n tyfu a chyfrannu at sector y celfyddydau creadigol yng Nghymru.

Mae Ballet Cymru yn herio gwahaniaethu ac yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn dawns a'r celfyddydau. Rydym felly’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’n cymuned, gan gynnwys pobl anabl, niwroamrywiol, Du, Asiaidd neu ethnig amrywiol. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan bobl dan 40 oed sy'n dangos y brwdfrydedd, yr egni a'r potensial i ddatblygu yn eu rôl fel Ymddiriedolwr Elusen.

Yn anad dim, rydym yn rhoi gwerth ar frwdfrydedd, didwylledd, goddefgarwch a thegwch, ac ymrwymiad i'r elusen. Yn gyfenwid am hyn, rydym yn cynnig cyfle gwych i gefnogi sefydliad celfyddydol Cymreig dynamig a chreadigol ar adeg gyffrous yn natblygiad y cwmni.

Mae gwybodaeth am yr iaith Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

GWNEUD CAIS

Am fwy o fanylion, lawrlwythwch:

Pecyn Cais Ymddiriedolwr - PRINT MAWR DWYIEITHOG

FFURFLEN GAIS YMDDIRIEDOLWR BALLET CYMRU 2025-SAES

FFURFLEN GAIS YMDDIRIEDOLWYR BALLET CYMRU 2025_CYM

neu e-bostiwch Weinyddwr Ballet Cymru , Jenny Carter.

Mae croeso i chi wneud cais yn Saesneg neu yn BSL; bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal. Byddem hefyd yn croesawu fideo dwy funud o hyd os yw'n well gennych.

DYDDIAD CAU WEDI'I ESTYN I: DYDD LLUN 12 IONAWAR 2026

Gwahoddir yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer i gyfweliad (naill ai ar safle Ballet Cymru neu ar-lein) yn y Flwyddyn Newydd.

Mae'r hysbyseb hon hefyd ar gael mewn fideo Cymraeg a BSL Saesneg.

Mae Ballet Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.

 

 

Mwy o Newyddion

Harddwch Cysgu Ballet Cymru
Cyfle Swydd: Swyddog Cyllid
Ein Llais 2026
Cyfle Swydd: Rheolwr Llwyfan Technegol
Cyfle Swydd: Rheolwr Technegol a Chynhyrchu