Dechreuodd Tonia ddawnsio pan oedd yn ddwyflwydd oed a phrofodd amrywiaeth o arddulliau dawnsio, gan gynnwys ballet, cyn i’w hanabledd ddatblygu pan oedd yn 14 oed.
(c) Owen James Vincent
Er gwaethaf cyflyrau meddygol acíwt a oedd yn aml yn peryglu ei bywyd, addysgodd Tonia ei hun i symud eto, gan herio disgwyliadau i ail-ymuno â byd dawns.
Ymunodd Tonia â Rhaglen Cymdeithion Ballet Cymru 2021-22 ac yna aeth ymlaen i gwblhau’r Rhaglen Gyn-broffesiynol yn 2022, ac mae bellach yn parhau â’i datblygiad fel dawnsiwr, coreograffydd ac addysgwr gyda Ballet Cymru yn y rôl newydd hon.
"Pan ymunais â Ballet Cymru am y tro cyntaf yn 2021 cefais groeso a fy nghynnwys, ac fe wnaeth Ballet Cymru fy ysbrydoli i helpu eraill sydd â sefyllfaoedd tebyg. Gyda chefnogaeth barhaus Ballet Cymru, gallaf ddangos y gall pobl ag anableddau ddawnsio hefyd a gallant symud ymlaen ym myd proffesiynol bale."
Cyflwyno Tonia, ein Hasiant dros Newid: Dawns
Mae Tonia wedi perfformio’n broffesiynol ar lwyfan, wedi coreograffu nifer o ddarnau o waith, wedi arwain gweithdai mewn ysgolion ac yn y gymuned, ac ar hyn o bryd mae'n cynnal sesiynau wythnosol ar gyfer Ballet Cymru 3, grŵp ieuenctid cynhwysol newydd y cwmni.
‘Rydym wrth ein bodd mai Tonia fydd ein Hasiant dros Newid: Dawns. Mae eisoes wedi cynhyrchu gwaith rhagorol trwy ei phenderfyniad a’i hangerdd tuag at ddawns, ac ni allwn aros i weld Tonia yn rhagori yn ei rôl newydd!”
Amy Doughty, Cyfarwyddwr Artistig, Ymgysylltu a Hyfforddiant Ballet Cymru
Mae Tonia yn chwilio am ffyrdd a chyfleoedd i ehangu mynediad ac ymgysylltu ym maes ballet a dawns, ac i weithio gyda chymunedau i estyn allan i bobl anabl sydd â'r potensial i ddawnsio. Bydd Tonia yn mynd â pherfformiadau i'r gymuned i ddangos y posibiliadau o ran cynnwys pobl mewn dawns.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Tonia, Asiant dros Newid: Dawns trwy anfon neges e-bost at tonia@welshballet.co.uk neu ffoniwch 01633 892927.
Mae'n bleser gennym lansio rhagflas ecsgliwsif o ffilm Tonia yn Nigwyddiad Codi Arian Nadoligaidd Ballet Cymru ddydd Sul 3 Rhagfyr 2023. Dewch i wylio’r ffilm a mwynhau perfformiadau byw gan ddawnswyr y cwmni a dawnswyr cyn-boffesiynol yn y stiwdio ddawns fawr, lle bydd danteithion Nadoligaidd yn cael eu cynnig i'r gwesteion.
Bydd yr holl elw o'r digwyddiad yn mynd tuag at raglen ddawns gynhwysol flaenllaw Ballet Cymru 3 .
Mwy o Newyddion
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU