Ballet Cymru yn cyflwyno Hugan Fach Goch
a'r Tri Mochyn Bach gan Roald Dahl
Y storïwr mwyaf poblogaidd yn y byd, Roald Dahl, wedi’i osod i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr rhagorol Paul Patterson a’i ddawnsio gan y cwmni ballet digyffelyb, Ballet Cymru.
Yn cynnwys gwisgoedd godidog, dawnsio anhygoel a thafluniadau fideo syfrdanol, mae'r cynhyrchiad hwn, a fydd yn peri i chi chwerthin yn uchel, yn ballet difyr a hygyrch i oedolion a phlant fel ei gilydd. Roedd dehongliad Ballet Cymru o Hugan Fach Goch a'r Tri Mochyn Bach gan Roald Dahl yn llwyddiant ysgubol pan gafodd ei berfformio ddiwethaf yn 2016, a dyfarnwyd y wobr am y Cynhyrchiad Dawns Gorau iddo yng Ngwobrau Theatr Cymru.
Mae sgôr hudolus y cyfansoddwr Paul Patterson wedi’i recordio a’i pherfformio gan Gerddorfa Ffilharmonig Llundain a Cherddorfa Siambr yr Alban, ymhlith llawer o rai eraill.
Mae Ballet Cymru yn gwmni ballet proffesiynol cynhwysol sy'n falch o fod yn Gymreig, ac sydd ag enw da am goreograffi gwobrwyol, arloesol wedi’i berfformio gan grŵp amrywiol a hynod dalentog o ddawnswyr proffesiynol o’r DU a ledled y byd. Mae cysylltiadau Roald Dahl â Chymru'n hysybys iawn, a chyda brwdfrydedd mawr mae Ballet Cymru yn parhau i rannu i’w gynulleidfaoedd a’i gefnogwyr dreftadaeth ddiwylliannol hynod gyfoethog Cymru.
Wales Online
Os byddwch yn gweld dim ond un ballet yn 2023, dewch i weld yr un hwn.
Mwy o Newyddion
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU