Bydd y Technegydd Teithiol yn rhan annatod o'r Tîm Technegol, gan gynorthwyo'r Rheolwr Technegol Teithiol, cynnal safonau, a datblygu perfformiad.
Bydd y rôl wedi'i lleoli yn stiwdio Ballet Cymru yng Nghasnewydd, De Cymru yn ystod y cyfnod cynhyrchu a theithio, a bydd yn golygu teithio i leoliadau ledled y DU ac oddi yno (bydd gan yr ymgeisydd delfrydol drwydded yrru y DU a bydd yn helpu i yrru cerbyd y daith).
Mae Ballet Cymru yn perfformio mewn tua thri lleoliad yr wythnos ar gyfartaledd yn ystod yr wythnosau teithio, gan ddychwelyd i brif leoliad y cwmni pan fo hynny'n ddiogel ac yn briodol.
Rhaid i'r ymgeisydd delfrydol feddu ar sgiliau ymarferol, gwybodaeth a phrofiad o ran ymarfer trydanol yn y theatr, sgiliau ymarferol, gwybodaeth a phrofiad o ran goleuadau a sain, ynghyd â gwybodaeth ymarferol am arferion Iechyd a Diogelwch cyfredol sy'n berthnasol i'r rôl.
Hanfodol: Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i weithio yn y DU
Dymunol: trwydded yrru lawn, lân.
Dyddiadau: Tymor Teithio yr Haf 31 Mai tan 29 Mehefin 2023 (4 wythnos)
Cynigir gwaith ychwanegol ar gyfer tymor teithio yr hydref o 25 Medi tan 3 Rhagfyr 2023 (10 wythnos)
Cyflog: £600 yr wythnos
Lwfans Adleoli £75 yr wythnos am hyd y prosiect
Yn ogystal, cynigir lwfansau yn ôl disgresiwn, hawl i wyliau a chynllun pensiwn y cwmni.
I wneud cais, anfonwch eich CV, ynghyd â llythyr eglurhaol yn nodi eich sgiliau a'ch profiad ar gyfer y rôl, trwy e-bost at Weinyddwr Ballet Cymru, Jenny Carter jenny@welshballet.co.uk
PECYN JOB Technegydd Teithiol 2023
Bydd ceisiadau a gyflwynir yn cael eu hadolygu a bydd rhestr fer yn cael ei llunio ar ôl iddynt ddod i law.
Bydd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i ddod i gyfweliad, a hynny ar sail barhaus nes bod yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael ei benodi i'r swydd.
Mae Ballet Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr y Mwyafrif Byd-eang. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw anghenion o ran mynediad.
Mwy o Newyddion
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU