Mae Rhaglen Cymdeithion Ballet Cymru wedi'i chynllunio i ategu hyfforddiant dawns presennol y myfyrwyr, a'i nod yw rhoi cyfle, dealltwriaeth a chipolwg i ddawnswyr ballet ifanc a thalentog ar yr hyn y gallai bywyd dawnsiwr proffesiynol ei olygu, a hynny trwy berthynas waith agosach a mwy rheolaidd â Ballet Cymru. Mae Ballet Cymru yn gwmni cynhwysol sy'n croesawu ceisiadau gan ddawnswyr ifanc ag anableddau, ynghyd â'r rheiny sydd â nodweddion gwarchodedig.
Cynhelir y rhaglen yn fisol ar ddydd Sul rhwng mis Medi 2023 a mis Awst 2024, a hynny yn stiwdio ddawns Ballet Cymru yng Nghasnewydd. Mae'n agored i ddawnswyr 9 oed a hŷn*. Mae'n gweithio ar dair lefel:
*Oed ar 31 Awst 2023
Mae’r Cwrs Cymdeithion Dwys hefyd wedi’i gynnwys yn y rhaglen, sef cwrs haf wythnos o hyd sy’n dod i'w derfyn gyda pherfformiad i arddangos y gwaith yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd ym mis Gorffennaf 2024, ac sy’n rhad ac am ddim i aelodau’r teulu ei wylio.
Cynhelir y clyweliadau ar gyfer Rhaglen Cymdeithion Ballet Cymru yn stiwdio Ballet Cymru yn Nhŷ-du, Casnewydd, ddydd Sadwrn 22 a dydd Sul 23 Gorffennaf 2023. Ni fydd yna gost/ffi ar gyfer y clyweliad. Dyrennir lleoedd ar y rhaglen gan Swyddog y Rhaglen Cymdeithion a thîm Ballet Cymru, a hynny'n seiliedig ar allu, cryfder a photensial.
Mwy o Newyddion
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU