Sain ddisgrifio, Cyfieithiadau Cymraeg a pherfformiadau â chyfieithiad BSL integredig o'r Hugan Fach Goch a'r Tri Mochyn Bach gan Roald Dahl
Mae Ballet Cymru yn gwmni ballet proffesiynol o Gasnewydd sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n hoffi gwneud pethau’n wahanol. Mae’r ballet hwn yn tynnu o gasgliad Cerddi Ffiaidd eiconig Roald Dahl gyda cherddoriaeth gan y cyfansoddwr byd enwog Paul Patterson.
Wedi'i choreograffu gan Gyfarwyddwyr Artistig Ballet Cymru, Darius James OBE ac Amy Doughty, daw’r dawnswyr gwych â’r stori’n fyw gydag adroddwr byw i gyd-fynd â'r cymeriadau ecsentrig ar y llwyfan.
Ar y 27ain o Fai yn Theatr Glan yr Afon Casnewydd, mi fydd Beth House yn Sain Ddisgrifio’r perfformiad, ac mi fydd Taith Cyffwrdd cyn y sioe gan ddechrau am 6:15yh. Cliciwch yma i gael mynediad at ein trelar â sain ddisgrifiad.
I fwcio’ch lle ar y Daith Cyffwrdd, ac os oes angen arbed clustffonau ar gyfer y sain ddisgrifio, cysylltwch â swyddfa tocynnau Theatr Glan yr Afon ar 01633 656679 neu ebostiwch Andrew.irving@newportlive.co.uk.
Sain ddisgrifio, Cyfieithiadau Cymraeg a pherfformiadau â chyfieithiad BSL integredig o'r Hugan Fach Goch a'r Tri Mochyn Bach gan Roald Dahl. Cliciwch yma i gael mynediad at ein trelar â BSL.
Sain ddisgrifio, Cyfieithiadau Cymraeg a pherfformiadau â chyfieithiad BSL integredig yn digwydd yn y lleoliadau canlynol yng Nghymru;
27 Mai am 7.30pm yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Casnewydd.
Sefydliad y Glowyr, Coed-duon ar 30 Mai
Pontio, Bangor, ar 16 Mehefin
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, ar 24 Mehefin.
Y Torch, Aberdaugleddau, ar 28 Mehefin.
Mae'r holl berfformiadau hyn yn dechrau am 7.30pm.
am sut i archebu cysylltwch â Louise Lloyd trwy anfon neges e-bost at louiselloyd@welshballet.co.uk neu ffoniwch ein swyddfa ar 01633 892927.
Mwy o Newyddion
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU