2022-09-30

Rhaglen cyn broffesiynol 2022-23

Mae'r cwrs blwyddyn llawn-amser yn cael ei gynnal yn stiwdios dawns y Cwmni yn Nhŷ-du, Casnewydd, a gan fod y rheolau ynghylch cadw pellter cymdeithasol wedi'u llacio, gallwn gael mwy o ddawnswyr ar y rhaglen eleni.

Byddwn yn croesawu dawnswyr o’r DU a gwledydd o bedwar ban byd, gan gynnwys Awstralia, Hong Kong, Sweden a De Affrica. Mae dawnswyr ifanc y dyfodol i gyd wedi cwblhau eu hyfforddiant galwedigaethol mewn ysgolion ag enw da, gan gynnwys The Royal Conservatoire yn yr Alban a'r Central Ballet School yn Llundain.

Croeso Caitlin Airs, Lucy Athorn, Xenia Balderstone, Louisa Bratby, Imogen Breaks, Tonia Cheney, Jordan Crewes, Emma Curan, Ethan Godwin-Whalley, Caitlin Gray, Amy Groves, Gabriela Langford, Matilde Marini, Ellie McDonald, Ellen Mulry, Phoebe Payne, Denzel Parsons, Kasia Sambrook, Montanna Springer, Emma Turner, Michelle Viani, Arabella Walton!

Mae Rhaglen Cyn-Broffesiynol Ballet Cymru yn rhaglen ar gyfer dawnswyr dawnus, uchelgeisiol a llawn cymhelliant sy'n dod i'r amlwg ac sy'n meddu ar uchelgeisiau beiddgar. Cynlluniwyd y rhaglen i hwyluso'r cyfnod pontio o hyfforddiant dawns galwedigaethol llawn-amser i fywyd mewn cwmni proffesiynol, a hynny mewn amgylchedd canolbwyntiedig, meithriniol.

Mae'r cwrs dwys llawn-amser hwn yn darparu cyfleoedd i hyfforddi a pherfformio ochr yn ochr â'r cwmni arobryn, Ballet Cymru, y cyfle neilltuol i ddatblygu sgiliau coreograffig, sy'n cynnwys cyfleoedd i berfformio, a chyfleoedd i rwydweithio. Ar ben hyn, ceir cyfleoedd i fynychu gweithdai ar ysgrifennu ceisiadau ar gyfer grantiau, a goleuo a chynllunio gwisgoedd, ynghyd â hyfforddiant ar addysg dawns a chyflwyno hyfforddiant, a gwella eich CV.

Byddwch yn gallu gweld y dawnswyr hyn yn perfformio yn Glan yr Afon, Casnewydd ac yn y Tŷ Dawns, Caerdydd ym mis Mawrth 2023.

I gael rhagor o wybodaeth am ein Rhaglen Cyn-Broffesiynol, cysylltwch â patriciavallis@welshballet.co.uk

 

Mwy o Newyddion

Dyddiau Pas De Deux
Mae Ballet Cymru Boys yn ôl!
Dawnswyr yn Eisiau
IAAP! (Panel Celfyddydau Ymgynghorol Ieuenctid)
Romeo a Juliet yn Dance City