Hoffai Ballet Cymru wneud cyfraniad cadarnhaol at y problemau sy'n wynebu iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy helpu i gynyddu ymwybyddiaeth, a chyda ffocws iechyd meddwl yn ein gwaith allgymorth.
Derbyniodd y dawnswyr proffesiynol a'r tîm allgymorth Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl gan MIND Casnewydd i ddarparu gwaith allgymorth sy'n cefnogiwareness o iechyd meddwl.
Bydd Ballet Cymru yn cydweithio â MIND Casnewydd dros y 5 mlynedd nesaf i gyflwyno prosiectau dawns ac yn cynhyrchu trelars fideo i gyflwyno neges iechyd meddwl gadarnhaol MIND.
Byddwn ni hefyd yn cynnal gwaith allgymorth iechyd meddwl mewn meysydd eraill yng Nghymru lle mae elusennau MIND wedi'u lleoli.
Am ragor o wybodaeth am ein gwaith gyda MIND Casnewydd, cysylltwch â: amydoughty@welshballet.co.uk