Mae Ballet Cymru wrth ei fodd i rannu'r newyddion anhygoel ein bod ni wedi derbyn cyllid o Gyngor Celfyddydau Cymru, Y Linbury Trust a'r Postcode Community Trust, i barhau ein rhaglen hyfforddiant dawns genedlaethol Duets, i blant a phobl ifanc ar draws Cymru.
Dechreuodd Duets yn 2012 ac mae'n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth gyda 5 sefydliadau dawns genedlaethol, 7 ysgol gynradd a 6 theatr ac yn cynnwys dros 200 o blant yn wythnosol. Mae'r cyllid yma yn galluogi Ballet Cymru i barhau gyda'r rhaglen sefydledig, arwain preswyliadau yn ysgolion newydd, hyfforddi ymarferwyr dawns ychwanegol a chynnig hyfforddiant mwy pwrpasol i'r Llysgenhadon Duets arbennig!
Diolch i'r holl arianwyr am alluogi hyn i ddigwydd:
Cyngor Celfyddydau Cymru/Llywodraeth Cymru
Ymddiriedolaeth Linbury
Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post
Partneriaid Duets:
Eleni
Dawns i Bawb
Impelo
Arts Care Gofal Celf
Jukebox Collective
Partneriaid Lleoliad:
Torch Aberdaugleddau
Ffrwnes Llanelli
Pontio Bangor
Theatr Glan yr Afon Casnewydd
Theatr Clwyd
Theatr Brycheiniog
Am fwy o fanylion am y Rhaglen Duets, ewch i