Dosbarth Bale Oedolion

Mae Ballet Cymru yn cynnig Dosbarthiadau Ballet Oedolion wythnosol i bawb o bob gallu, gan gynnwys oedolion sy'n dychwelyd i ddawns bale a dawns, a rhieni gyda phlant hŷn sydd am roi cynnig ar bale gyda'i gilydd.

Ffordd wych o ddod yn heini, cadw'n heini, cwrdd â ffrindiau newydd a gweithio wyneb yn wyneb â dawnswyr a staff eithriadol Ballet Cymru.
Os ydych chi'n chwilio am ddosbarth hamddenol a chyfeillgar iawn mewn amgylchedd cefnogol, yna rhowch alwad i ni.
Cynhelir dosbarthiadau naill ai yn ein stiwdios hardd yn Nhŷ-du, Casnewydd neu ar Zoom sy'n dibynnu ar reoliadau Covid 19.

Os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch â louiselloyd@welshballet.co.uk.