Mae Ballet Cymru yn cyflwyno gwaith rhagorol gan un o goreograffwyr mwyaf arloesol a chyffrous y DU, Marc Brew.
Mae Traces Imprinted yn archwilio'r argraffnodau a'r atgofion a wnaed a'r olion a adawyd ar ôl a chafodd ei goreograffu ar y cwmni yn 2015 cyn teithio i Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd a Sadlers' Wells yn Llundain. Bellach mae Marc yn Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Axis yn San Francisco ac yn Artist Cyswllt Ballet Cymru.