Dosbarthiadau Ballet Cynhwysol

Mae Ballet Cymru yn eich croesawu i ymuno â'n sesiynau dawns cynhwysol wythnosol newydd, Ballet Cymru 3,
sesiwn bale wythnosol newydd yn Stiwdios Ballet Cymru, Casnewydd.
Sesiwn gyntaf am ddim!
Mae'r dosbarthiadau ar ddydd Mercher 5.30-6.30pm, maent yn agored i bob gallu, ac yn archwilio techneg ballet a chreadigrwydd.
Mae'r dosbarthiadau'n costio £5 am alw heibio neu £4 y sesiwn os ydych yn talu am yr hanner tymor.
Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan y Swyddog Mynediad ac Allgymorth, Louise Lloyd.
Dylai cyfranogwyr wisgo dillad cyfforddus i ddawnsio ynddynt, a naill ai esgidiau bale neu draed noeth.
PRYD: ar ddydd Mercher yn ystod y tymor o 10 Ionawr 2024, 5.30-6.30pm
BLE: Ballet Cymru Studios, Rogerstone, Casnewydd NP10 9FQ
COST: Sesiwn gyntaf AM DDIM, £5 galw heibio, £4 y sesiwn am bob hanner tymor
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â louiselloyd@welshballet.co.uk.