Cefnogwch ni
Pob rhodd yn cael effaith
Bydd eich cyfraniad, waeth pa mor fawr neu fach, yn gymorth i gynnal gweithgareddau Ballet Cymru yn y cyfnod anodd hwn ar ôl Covid. Fel sefydliad nid-er-elw, rydym yn sicrhau bod yr holl roddion yn mynd yn uniongyrchol at gefnogi rhaglenni'r elusen a datblygu ein hymgysylltiad â'n cyfranogwyr, cefnogwyr a chynulleidfaoedd ledled Cymru a'r DU.

Mae Ballet Cymru yn elusen, wedi'i chofrestru dan gwmni Gwent Ballet Theatre Limited, Rhif Elusen 1000855. Fe wnaeth y cwmni gofrestru fel elusen yn 1990 ac fe gyflawnodd gydnabyddiaeth fel elusen oedd yn perfformio uwchben y safonau rheoleiddio sydd i'w disgwyl yn dilyn asesiad gan y Comisiwn Elusennau.

Os ydych yn drethdalwyr yn y DU ac yn gymwys i wneud cyfraniadau yn erbyn treth a dalwyd, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cadarnhau'r statws hwn a darparu eich cod post, a gall Ballet Cymru hawlio 20% o unrhyw rodd neu werthiant yn ôl gan CThEM.