Dawns i Symud

Cynhelir Dawns i Symud mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Joanne May, Rheumatolegydd Pediatrig Ymgynghorol sy'n arwain agwedd feddygol y prosiect gyda chefnogaeth gan ei staff meddygol.

Nod Dawns i Symud yw gweithio'n greadigol ac yn gorfforol gyda chleifion ifanc sy'n byw gydag Arthritis, cyflyrau cysylltiedig a phoen cronig.

Mae tua 250 o blant a phobl ifanc sy'n dod o dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am y rhesymau hyn a chynlluniwyd Dawns i Symud i archwilio symudiad corfforol sy'n ddiogel ac yn ffafriol i gyflyrau poen, ond sydd hefyd yn galluogi'r cleifion i gael llais, arweinyddiaeth a rheolaeth dros gynnwys y gwaith a gyflwynir ac yn cynnig cyfle i hunanfynegiant.

Nod Dawns i Symud yw gwella eu hiechyd corfforol ond hefyd, yn hanfodol, eu hiechyd meddwl a'u lles hefyd.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am Dawns i Symud cysylltwch â amydoughty@welshballet.co.uk.