Coreograffydd o fri rhyngwladol ac Artist Cyswllt Ballet Cymru, Marc Brew fydd ein siaradwr gwadd ar gyfer y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau dawns cynhwysol, a gynhelir yn stiwdio Ballet Cymru yng Nghasnewydd.Bydd mynychwyr yn cael cyfle i ddysgu mwy am waith Marc Brew a'i ddulliau cynhwysol, yn ogystal â gweld y cipolwg cyntaf ar waith newydd y mae'n ei greu ar ddawnswyr Ballet Cymru ar hyn o bryd.
Bydd cyfle i gwrdd â Marc, trafod dawns gynhwysol a gofyn cwestiynau mewn amgylchedd diogel, cyfrinachol a chyfeillgar.
Mewn partneriaeth rhwng Ballet Cymru a Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Dyma'r cyntaf mewn cyfres o sgyrsiau am ddim gyda siaradwyr gwadd i wella sgiliau a gwybodaeth pobl am ddawns gynhwysol yng Nghymru ymhellach.
Mae stiwdios Ballet Cymru yn hygyrch gyda rampiau yn arwain at bob mynedfa stiwdio.
Mae toiledau hygyrch a bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar y llawr gwaelod. Mae tri lle parcio i'r anabl ar gael o flaen yr adeilad (gall mwy fod ar gael os oes angen)
Cynigir amrywiaeth o fwyd a diod pan fyddwch yn cyrraedd i weddu i wahanol ofynion a dewisiadau dietegol, ond cysylltwch â ni os oes gennych ofyniad penodol neu alergedd i unrhyw fwydydd.
Am unrhyw fanylion pellach, cysylltwch â Jenny yn Ballet Cymru
jenny@welshballet.co.uk
01633 892927
Ariennir y digwyddiad hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Mwy o Newyddion