Mae Ballet Cymru a Krystal S. Lowe yn cyflwyno addasiad beiddgar o’r chwedl werin Gymreig DAUGHTERS OF THE SEA gyda cherddoriaeth gan Kizzy Crawford.
Mae gan bob gwlad ei hanes, ei stori darddiad os dymunwch. . .
Mae Daughters of the Sea yn dapestri o air llafar amlieithog, dawns ddeinamig, ac ymasiad cerddoriaeth enaid/ffync/jazz Kizzy Crawford. Dewch gyda ni wrth i ni adrodd hanes tair dynes o wledydd gwahanol – rhyfelwraig, iachawr, ac arweinydd – yn teithio i ddod o hyd i anturiaethau newydd nes bod gelyn annisgwyl yn eu cymell i sefyll gyda’i gilydd ac ymladd i amddiffyn y rhyddid i ddewis.
DIGWYDDIAD RHANNU AM DDIM 18.02.2025 YM BALLET CYMRU
Ymunwch â Ballet Cymru a Krystal S. Lowe wrth iddynt gyflwyno gwaith ar y gweill gan rannu eu cyd-gynhyrchiad sydd ar ddod.
Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2025
Amser: 5:00pm - 6:30pm
Tocynnau: AM DDIM
Lleoliad: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Ddiwydiannol y Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ