Dawnswyr ar angen

Mae BALLET CYMRU yn gwmni ballet proffesiynol arobryn wedi’i leoli yng Nghymru, y DU, sy'n cynhyrchu perfformiadau dawns gwreiddiol sy’n teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Dawnswyr amrywiol, unigol, profiadol ac uchel iawn eu cymhelliant yn eisiau, sydd â Sgiliau Ballet Clasurol a/neu Sgiliau Cyfoes a Chreadigol ardderchog.

Mae Ballet Cymru yn croesawu ceisiadau gan ddawnswyr anabl, niwroamrywiol, Du, Asiaidd, pobl o liw nad ydynt yn Ddu, a/neu ddawnswyr ethnig-amrywiol.

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i weithio yn y DU

Contractau Llawn-amser a Llawrydd ar gael, yn dechrau Ebrill 2024.

Lle: Ballet Cymru, Casnewydd, Cymru, y Deyrnas Unedig

Pryd: Clyweliadau Ionawr/Chwefror 2024. Contractau yn dechrau Ebrill 2024

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Ionawr 2024

Gwneud cais:

Byddwch cystal ag anfon eich manylion, a hynny ar ffurf CV ysgrifenedig neu eich cyflwyniad dewisol, ynghyd â dolenni i luniau a/neu fideos addas, at:

Darius James OBE, Cyfarwyddwr Artistig
Ballet Cymru
E-bost: dariusjames@welshballet.co.uk

Bydd y clyweliadau, a fydd yn rhai trwy wahoddiad yn unig, yn cael eu cynnal yn stiwdios dawns hygyrch Ballet Cymru yng Nghasnewydd, Cymru, y DU, a hynny yn ystod misoedd Ionawr/Chwefror 2024.

Mae'r hysbyseb hwn hefyd ar gael yn Gymraeg ac ar ffurf fideo BSL wedi'i sgrindeitlo yn Saesneg.

Mae Ballet Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac wedi Ymrwymo i fod yn Hyderus o ran Anabledd,

Mwy o Newyddion

Perfformiadau awyr agored Sleeping Beauty
Ballet Cymru 2 Rhannu Coreograffig
Harddwch Cysgu Ballet Cymru
Cyfle Swydd: Swyddog Cyllid
Ein Llais 2026