

Dawnsiwr
Dechreuodd Chlöe ddawnsio gyda’i hysgol dawns lleol yn dair mlwydd oed, ac fe’i hanogwyd i gario ymlaen â ballet. Dechreuodd ei hyfforddiant proffesiynol yn ddeng mlwydd oed ar raglen Center for Advanced Training (CAT) gyda’r Academy of Northern Ballet yn Leeds. Perfformiodd hi tri tymor fel myfyrwraig gyda Northern Ballet yn ballet nadoligaidd David Nixon OBE, The Nutcracker.
Parhaodd Chlöe ei hyfforddiant galwedigaethol yn The Hammond School yn Chester, yn hyfforddi mewn ballet clasurol, contemporary, jazz, tap, dawns Lladin-Americanaidd, drama a choreograffi. Dysgodd Chlöe gweithdai contemporary i fyfyrwyr yr ysgol isaf yn ei blwyddyn raddedig, cyn graddio yn 2020 gyda diploma lefel 6 mewn dawns proffesiynnol.
Yn hydref 2020 ymunodd Chlöe â Europa Danse Company yng Ngwlad Belg, a gweithiodd gyda’r coreograffwyr gwadd Douglas Becker, Glen Lambrecht a Stefen Wise. Creodd Chlöe darn or enw ‘What If’ a chafodd ei berfformio gan ei chyfoedion yn y cwmni dros leoliadau awyr agored yng Ngwlad Belg.
Ers ddychwelyd i’r DU, dechreuodd Chlöe ei thaith gyda Ballet Cymru fel myfyriwr cyn-broffesiynnol. Perfformiodd Chlöe gyda’r cwmni ar eu taith o ‘Dream’, yn ogystal ag yn yr Eisteddfod. Mi fydd hi’n ymuno fel dawnsiwr proffesiynnol ym mis Medi 2022.
Dawnswyr Eraill
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru UK