Opto Nano

Taith haniaethol ac athletaidd drwy ymchwil arloesol athro bioffiseg; Paola Borri. Mae pelydr golau, pylsiadau laser, cymesureddau, lliwiau, a bondiau celloedd sy’n cael eu hymestyn yn rhai o’r syniadau sydd wedi llywio byd ffisegol y gwaith hwn. Yn unigryw gan ei fod yn cael ei gyflwyno mewn fformatau byw a digidol, ac wedi’i bweru gan sgôr sŵn electronig gan gyfansoddwr arobryn R.SEILIOG, crëir y gwaith i theatr fyw yn ogystal â pherfformiadau digidol trochol gan ddefnyddio ffilm 360° a chipio symudiad.


An abstract and athletic journey through the cutting-edge research of biophysics professor; Paola Borri. Light beams, laser pulses, symmetries, colours, and stretching cell bonds are some of the ideas which have informed the physical world of this work. Uniquely presented in both live and digital formats, and powered by an electronic sound score from critically acclaimed Welsh composer R.SEILIOG, the work is created for live theatre as well as immersive digital performances using motion capture and 360° film.

Into the Novacene

Dechreuadau creadigaeth newydd a byd newydd. Mae Into the Novacene yn cymryd ysbrydoliaeth o ymchwil sy’n cael ei sbarduno gan beiriannydd a gwyddonydd James Lovelock. Mae’r gwaith yn chwildroi ynghylch themâu natur, dynoliaeth a thechnoleg yn cydfodoli fel un system. Roedd y pethau cyffredin, gollwng popeth a’r dechreuadau newydd yn pweru ein harchwiliad. Mae’n ddarn o waith am fywyd newydd a’r dyfodol.


The beginnings of a new creation and of a new world. Into the Novacene takes inspiration from research driven by engineer and scientist James Lovelock. The work swirls around themes of nature, humanity and technology co-existing as one system. The commonalities, the letting go of everything and the new beginnings powered our exploration. It’s a work about new life and the future.

Jack Philp

Jack Philp

Mae Jack Philp yn goreograffydd a chyfarwyddwr wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae ei waith yn dod o ddiddordeb mewn gwyddoniaeth a thechnoleg ddigidol. Mae’n dod o le o ddarganfyddiad, wedi’i arwain gan y datblygiadau diweddaraf yn y byd o’n cwmpas ac wedi’i sbarduno gan gariad tuag at y corff corfforol. Nod ei waith yw cipio’r gwyrthiau yn y pethau hynny drwy goreograffi egnïol, lliwgar a chydweithredol. Mae wedi mynd a’i waith ar daith gyda’i grŵp annibynnol; Jack Philp Dance yn ogystal â choreograffu ar gyfer cwmnïau a phrifysgolion ledled y DU; gan gyflwyno gwaith ar y llwyfan, ffilm ac i brofiadau digidol. Yn ogystal â’i waith fel coreograffydd, mae Jack hefyd wedi gweithio fel cyfarwyddwr symudiad am ysgrifennu newydd, yn ogystal â chyfarwyddwr ymarfer dros dro i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.


Jack Philp is a choreographer and director based in Cardiff, Wales. His work is born from a fascination with science and digital technology. It comes from a place of discovery, lead by the latest advancements in the world around us and driven by a love for the physical body. His work seeks to capture the wonder in those things through energetic, colourful and collaborative choreography. He has toured work with his independent collective; Jack Philp Dance as well as choreographed for companies and universities across the UK; presenting work on stage, film and for digital experiences. In addition to his work as a choreographer, Jack has also worked as a movement director for new writing, as well as interim rehearsal director for National Dance Company Wales.