Am y fenter/About

Mae GWAITH AR Y GWEILL (GAYG) / WORKS-IN-PROGRESS (WIP) yn fenter sydd wedi’i dylunio i ymateb i alwad am weithredu, gan bontio’r bwlch rhwng lleoliadau a sefydliadau ariannu, curaduron, cynhyrchwyr a choreograffwyr llawrydd sydd yng nghanol eu gyrfaoedd ac sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Wedi’i harwain gan Marcus Jarrell Willis, Coreograffydd Preswyl Ballet Cymru, mae GAYG/WIP yn cefnogi coreograffwyr dawns / gwneuthurwyr dawns drwy gynnig amser, lle a chyllid i greu gwaith. Cefnogir y fenter yn rasol gan Ballet Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Mae GAYG/WIP yn ymateb i angen penodol, a nodwyd yn y sector ac yn ceisio cefnogi datblygiad gyrfaol gwirioneddol. Mae’r fenter yn edrych yn benodol i goreograffwyr o Gymru ac sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, sydd wedi’u tangynrychioli ac sydd yng nghanol eu gyrfaoedd. Bu ffocws uniongyrchol ar gyrraedd coreograffwyr sydd yn gobeithio dwyn eu gwaith ymlaen mewn lleoliadau.

Rydym wedi gwrando ar sector coreograffwyr llawrydd yng Nghymru, sy’n wynebu anawsterau sylweddol wrth lywio’r llwybrau er mwyn i goreograffwyr gael eu gweld. Yn Ballet Cymru, rydym am ddefnyddio ein statws fel rhan o Bortffolio Celfyddydol Cymru i helpu meithrin perthnasoedd gyda lleoliadau a sefydliadau ar gyfer prosiectau coreograffig annibynnol.

WORKS-IN-PROGRESS (WIP) is an initiative designed to respond to a call for action, bridging the gap between Wales based mid-career freelance choreographers and producers, curators, funding organisations and venues. Led by Ballet Cymru’s Resident Choreographer, Marcus Jarrell Willis, WIP supports freelance dance choreographers/dance makers through the offering of time, space, and funds to create work. The initiative is graciously supported by Ballet Cymru and Arts Council of Wales.

WIP responds to a specific, identified need in the sector and aims to support real career progression. The initiative looks specifically to Welsh and Wales based under-represented, mid-careers choreographers. There has been a direct focus in reaching choreographers that are looking to bring their work forward in venue settings.

We have listened to the freelance choreographers’ sector in Wales, who face significant difficulties around the navigation of pathways for choreographers to gain visibility. At Ballet Cymru, we want to use our status as an APW to help cultivate relationships with venues and organisations for independent choreographic projects.