Bydd y Swyddog Cyllid yn rhan annatod o Dîm Ballet Cymru wrth reoli cyllid yr Elusen. Bydd hon yn rôl newydd, a bydd y person yn gyfrifol am y tasgau ariannol o ddydd i ddydd, yn ogystal â chynorthwyo i reoli, darparu a monitro cyllid yr elusen a pharatoi’r cyfrifon blynyddol.
Mae hwn yn gyfle lefel mynediad gwych i rywun sydd am ddatblygu eu gyrfa cyllid/cyfrifeg, gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad perthnasol i’r person cywir wrth i’r sefydliad dyfu.
Yn atebol i: Gweinyddwr, Cyfarwyddwyr Artistig
Lleoliad: Ballet Cymru, Casnewydd (ystyrir gweithio hyblyg)
Oriau: 22 awr yr wythnos
Cyflog: £28K - £30K y flwyddyn pro rata (yn dibynnu ar brofiad)
Buddiannau: Cynllun pensiwn cwmni; gwyliau, cefnogaeth gyda hyfforddiant perthnasol
Cyfnod Prawf: 3 mis
Cyfnod Rhybudd: 1 Mis
I gael rhagor o fanylion, lawrlwythwch Becyn Swydd y Swyddog Cyllid
I wneud cais, darparwch CV ynghyd â llythyr eglurhaol yn nodi eich sgiliau a’ch profiad ar gyfer y rôl i Weinyddwr Ballet Cymru, Jenny Carter jenny@welshballet.co.uk
Bydd ceisiadau a gyflwynir yn cael eu hadolygu a bydd rhestr fer yn cael ei llunio ar ôl iddynt ddod i law.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal o 6 Ionawr 2025 yn Ballet Cymru, Casnewydd NP10 9FQ
Dyddiad Dechrau: 10 Chwefror 2025 (neu'n gynharach os yw'n well gennych)
Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i weithio yn y DU.
Rydym yn annog ceisiadau gan gymunedau anabl, B/byddar, niwroamrywiol, LGBTQ+, Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig.
Mae croeso i chi wneud cais yn Saesneg neu yn BSL.
Mae Ballet Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae Ballet Cymru yn Elusen Gofrestredig o dan yr enw Gwent Ballet Theatre Limited. Rhif Elusen 1000855
Mae Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan:
Mwy o Newyddion
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru DU