Perfformiadau Awyr Agored Unigryw o Romeo a Juliet

Bydd y cwmni ballet proffesiynol o Gasnewydd, Ballet Cymru, yn perfformio’r cynhyrchiad arobryn hwn yn nwy o erddi prydferth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr haf hwn!

Tŷ a Gerddi Tredegar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Casnewydd

 20, 21, 22 Awst 2024

6.30pm

 

Gerddi Dyffryn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Bro Morgannwg

 28, 29, 30 Awst 2024

6.30pm

Dyma Ballet Cymru, cwmni arobryn y Critics' Circle, yn cyflwyno addasid rhyfeddol o gampwaith Shakespeare, Romeo a Juliet, wedi'i berfformio i sgôr ddramatig enwog Prokefiev.

Mae ymladd dwys, deuawdau angerddol a themâu oesol yn atseinio trwy goreograffi dramatig a thelynegol. Mae gwisgoedd cywrain a thafluniadau fideo neilltuol yn creu byd o berygl a chyffro, lle caiff dau gariad ifanc eu dal mewn hen elyniaeth.

Mae 'Romeo a Juliet' yn cynnwys coreograffi gan Gyfarwyddwyr y cwmni, Darius James OBE ac Amy Doughty, a gwisgoedd gan Georg Meyer-Wiel (www.meyerwiel.com) sydd wedi creu gwisgoedd ar gyfer rhai o gwmnïau mwyaf blaenllaw'r byd, gan gynnwys Rambert Dance Company ac Australian Dance Theatre.

Disgrifiad Clywedol Wedi'i Recordio Ymlaen Llaw Mae Disgrifiad Clywedol Wedi'i Recordio Ymlaen ar gael ar gyfer perfformiad Ballet Cymru. Os hoffech archebu'r gwasanaeth hwn, cofrestrwch eich diddordeb wrth archebu lle, a bydd Ballet Cymru yn cadw set pen ar eich cyfer.

 

Dewch â ffrindiau a theulu a mwynhau picnic ar y lawnt!

I archebu tocynnau, ewch i: newportlive.ticketsolve.com

Ffôn: 01633 656757

Derbynnir archebion hefyd wrth i chi gyrraedd ar ddiwrnod y perfformiad.

 Cyd-gynhyrchiad rhwng Ballet Cymru a Theatr Glan yr Afon

© Ffotograffiaeth Siân Trenberth

Mwy o Newyddion

Ballet-Cymru-2-Logo
Galw terfynol: Rhaglen Cyn-broffesiynol 2024-25
Perfformiadau Awyr Agored Unigryw o Romeo a Juliet
Croeso cynnes i'n hymddiriedolwyr newydd. Cerddoriaeth Adam ac Evelyn James
Mae merch ifanc â gwallt melyn yn gwisgo top gwyn a legins coch yn dawnsio mewn traed noeth mewn stiwdio ddawns
Dawnsio i Symud
Mae dawnswraig fenywaidd gyda gwallt hir a gwisgo ffrog wen yn neidio i fyny yn yr awyr gyda'i breichiau yn cael eu hestyn allan. Mae adeiladau modern ac awyr gymylog ddramatig y tu ôl iddi.
Ar daith yn 2024: Romeo a Juliet