
Mae Adam Music yn athro ysgol gynradd ac yn ganwr opera wedi'i leoli yn Ne Cymru. Mae ganddo amrywiaeth eang o brofiadau a diddordeb brwd mewn clywed lleisiau a straeon newydd, ac mae'n teimlo'n angerddol ynghylch yr holl gelfyddydau perfformio a sicrhau eu bod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.
Mae'n gyffrous i fod yn rhan o Ballet Cymru fel sefydliad sy'n gwerthfawrogi addysg ac yn cofleidio cyfoeth profiadau diwylliannol.

Evelyn James yw Rheolwr Ymgyrch 5050Amrywiol RhCM. Mae'n Ymarferydd Cyfreithiol ac mae ganddi radd meistr mewn Astudiaethau Datblygu – Hawliau Dynol, Rhywedd a Gwrthdaro. Mae ganddi hefyd LLM mewn Technoleg Gyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Evelyn yn eirioli dros gyfiawnder a newid cymdeithasol, a mecanweithiau datrys gwrthdaro a heddwch. Ymhlith y portffolios niferus sydd ganddi, mae Evelyn yn parhau i ganolbwyntio ar achosi newid cadarnhaol mewn byd sy'n cynnwys pob llais, sydd heb unrhyw wahaniaethu, ac sy'n sicrhau bod pawb yn cael cyfleoedd cyfartal.
Cynigiodd Evelyn gymorth mentora i Ballet Cymru mewn rhaglen Wrth-hiliaeth dan arweiniad CCC, ac ers hynny bu'n cymryd rhan weithredol i helpu'r cwmni i ymgysylltu â phobl o gymunedau amrywiol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru, Darius James;
‘yn dilyn ymgyrch lwyddiannus y llynedd i recriwtio ymddiriedolwyr, mae'n bleser gennym gyhoeddi penodiad Adam ad Evelyn i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr a, gyda'u cymorth, gall Ballet Cymru fynd ati ymhellach i ddatblygu amcanion ar gyfer ansawdd, amrywiaeth a chynhwysiant, ledled y sefydliad ac ymhlith y rheiny sy’n ymgysylltu â’n gwaith, fel ei gilydd.’
Mae rhagor o fanylion am Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Elusen i'w gweld ar ein gwefan: www.ballet.cymru/board
Mae Ballet Cymru yn elusen gofrestredig dan yr enw Gwent Ballet Theatre Limited, Rhif 1000855, Rhif Cofrestru Cwmni'r DU Rhif 02535169
Mwy o Newyddion