2022-10-04

Gypsy Maker 5 – Sgyrsiau Dawns yn Ballet Cymru

Mae cwmni Romani Cultural & Arts Company (RCAC) yn falch iawn o gyhoeddi prynhawn o Sgyrsiau Dawns mewn cydweithrediad â Ballet Cymru i nodi gosod arddangosfa Gypsy Maker 5 yr RCAC yn y Riverfront yng Nghasnewydd. 

Y gosodiad cyffrous hwn o weithfeydd a gomisiynwyd yn arbennig gan yr artistiaid Imogen Bright Moon, Corrina Eastwood a Rosamaria Kostic Cisneros yw'r diweddaraf yn ein prosiect Gwneuthurwr Sipsi dyfeisgar, menter sy'n cefnogi datblygu gweithfeydd artistig a grëwyd yn arloesol gan artistiaid Sipsi, Roma a Theithwyr. Mae prosiect Gypsy Maker 5 yn ehangu gwaith yr RCAC drwy barhau i ymgysylltu â chymunedau GRT gyda'r cyhoedd yn ehangach mewn deialog barhaus am y ffyrdd y mae celf yn parhau i lywio ein bywydau heddiw. 

Comisiynir yr arddangosfa gan yr RCAC gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.  

25 Hydref 2022

12.30pm - 3pm

BWCIWCH NAWR

MAE'R DIGWYDDIAD AM DDIM HWN BELLACH AR GAEL I'W FYNYCHU DROS ZOOM HEFYD.

Cadarnhewch a ydych yn bwriadu mynychu wyneb yn wyneb neu ar-lein i'r trefnydd diolch.

Mwy o Newyddion

Mae merch ifanc â gwallt melyn yn gwisgo top gwyn a legins coch yn dawnsio mewn traed noeth mewn stiwdio ddawns
Dawnsio i Symud
Mae dawnswraig fenywaidd gyda gwallt hir a gwisgo ffrog wen yn neidio i fyny yn yr awyr gyda'i breichiau yn cael eu hestyn allan. Mae adeiladau modern ac awyr gymylog ddramatig y tu ôl iddi.
Ar daith yn 2024: Romeo a Juliet
Logo Proffesiynol Ballet Cymru B
Rhybudd Swydd: Technegydd / Gweithredwr Sain Teithiol
Duets_Logo_Colour fach
Rhaglen Genedlaethol Deuawdau Ionawr – Mawrth 2024
Mae dawnswraig ifanc gyda gwallt wedi'i glymu'n ôl ac yn gwisgo top glas a siorts a sanau du yn dawnsio ar lwyfan ac yn gwenu
Rhaglen Cymdeithion Ballet Cymru 2024-25