

Dawnsiwr
Dechreuodd Sam ddawnsio yn dair oed, pan ddysgodd ballet, tap a jazz yn ei ysgol ddawns leol, The Sally Prout School of Dance. Yn 16 oed, sicrhaodd le yn y Central School of Ballet, lle y bu'n hyfforddi am dair blynedd hyd nes iddo raddio'n 19 oed gyda Gradd BA (Anrh.) mewn Dawns a Pherfformio Proffesiynol. Yn ei drydedd flwyddyn, aeth ar daith gyda Ballet Cymru yn perfformio Le Corsaire, Jigsaw gan Charlotte Edmonds, ac Act 2 o Highland Fling gan Matthew Bourne.
Wedi iddo raddio, ymunodd Sam â Rhaglen Ôl-raddedigion Northern Ballet, lle y parhaodd gyda'i hyfforddiant. Perfformiodd gyda Northen Ballet ar daith Casanova y cwmni hefyd, ac yn ei ballet i blant, Pinocchio.
Yn 2022 ymunodd Sam â Ballet Cymru yn ddawnsiwr proffesiynol.
Dawnswyr Eraill
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru UK