

Cyn-Reolwr Proffesiynol
Hyfforddwyd Patricia Vallis yn Academi Ddawns Rotterdam a’r Joffrey Ballet School yn Efrog Newydd, Unol Daleithiau America. Mae hi wedi dawnsio i gwmnïau yn Ewrop, gan weithio gyda Richard Wherlock, Birgitta Trommler, David Parsons a Bernd Schindowski.
Dawnsiodd â chwmni Zürich Ballet, gan berfformio fel unawdydd ac mewn prif rolau yn y Nutcracker, Medea, Raymonda, Lej Dal Chods, y Dansant, Trazom (coreograffi Bernd Bienert) a hefyd mewn darnau gan Mats Ek, Lionel Hoche, Jorma Uotinnen ac Amanda Miller. Bu’n ffodus o gael perfformio’r eiconig Sacre a L’Après-midi d’un Faune â choreograffi gwreiddiol Nijinsky.
Dechreuodd goreograffu ynghyd â dawnsio, ac yn Zürich, dewiswyd ei darn The Three Sisters ar gyfer dathliad 75 mlynedd y theatr. Yn ogystal, lluniodd y coreograffi ar gyfer Opera L’Enfant et Les Sortilèges yn nhŷ opera Zürich. Yn 1999, creodd ei chwmni ei hun yn Ffrainc o’r enw Cie Bla Bla Bla, a fu’n teithio o ŵyl i ŵyl yn Ffrainc.
Dechreuodd Patricia dysgu yn Zürich yn 1999 a daeth yn Feistres Ballet yn Theatr Daleithiol Darmstadt yn 2001. Bu’n athrawes wadd i gwmnïau dawns yn St Gallen, Augsburg, Ballet Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Random Dance Wayne McGregor a New Adventures Matthew Bourne, a’r TROCS.
Ymunodd Patricia â Ballet Cymru yn 2005 fel athrawes wadd. Derbyniodd rôl Rheolwr Rhaglen Gyn-broffesiynol Ballet Cymru yn 2017, gan goreograffu, rheoli cynnwys y rhaglen a mentora’r dawnswyr.
Aelodau Eraill o Staff
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru UK