

Dawnsiwr
Daw Kotone o Nagoya, Japan yn wreiddiol, lle y dechreuodd ei hyfforddiant ballet yn dair oed, cyn hyfforddi yn y Central School of Ballet o 2018 tan 2021. Pan oedd yn 18 oed, roedd yn aelod o daith 2021 Ballet Central, a pherfformiodd Glunare ac Odalisque yn Le Corsaire Act 1, wedi’i goreograffu gan Christopher Marney, Duet yn Jigsaw gan Charlotte Edmonds, yn ogystal â dawnsio yn Highland Fling Act 2, gan Matthew Bourne. Graddiodd Kotone o'r Central School of Ballet gyda Gradd BA (Anrh.) mewn Dawns a Pherfformiad Proffesiynol o Brifysgol Caint.
Ym mis Medi 2021, cafodd gyfle i sefyll ar y llwyfan mawr ar gyfer West End live 2021 a goreograffwyd gan Christopher Marney gyda Chlwb Cabaret Llundain.
Yn ogystal â hynny, ymunodd Kotone â rhaglen ôl-raddedig Northern Ballet yn 2021, lle chafodd ei dysgu gan Yoko Ichino a Nicola Smart. Fe chafodd hi profiad perfformio fel Franny y Broga a Camden y gath ym mherfformiad Northern Ballet o Pinocchio, wedi’i goreograffu gan Gavin McCaih.
Ym mis Ebrill 2022, ymunodd Kotone â Ballet Cymru yn ei rôl gyntaf fel dawnsiwr proffesiynol fel Hermia yn Dream.
Dawnswyr Eraill
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru UK