

Dawnsiwr
Ganwyd Beth yn Hull, lle hyfforddodd yn lleol yn yr LWHS School of Dance o bedair oed ymlaen. Bu hefyd yn mynychu Cymdeithion Iau a Chymdeithion Canol y Ballet Brenhinol, ynghyd â Chymdeithion Hŷn Northern Ballet o un ar ddeg oed ymlaen. Pan oedd yn un ar bymtheg, symudodd Beth i Lundain i hyfforddi yn y Central School of Ballet, gan raddio â gradd mewn dawns a pherfformio proffesiynol. Wedi iddi raddio, aeth ymlaen i hyfforddi ymhellach ar Raglen Gyn-broffesiynol Northern Ballet.
Ers iddi ymuno â Ballet Cymru yn 2017, mae Beth wedi perfformio amryw o rolau gwahanol, megis Cinderella, Lady Capulet, Juliet yn Romeo and Juliet, Helena yn A Midsummer Night’s Dream, a llawer mwy.
Mae Beth hefyd yn rhan o Dîm Addysg Ballet Cymru, ac mae wedi teithio i nifer o ysgolion gwahanol ar hyd a lled Cymru a Lloegr gan helpu i gynorthwyo a dysgu gweithdai ar gyfer plant o bob oed a gallu, yn ogystal â dysgu ar y Rhaglen Cymdeithion a’r Ysgol Haf Ballet Ryngwladol.
“Y tu allan i’r byd dawns, rwyf wrth fy modd yn teithio, a dyna pham mae gweithio fel ddawnswraig yn gweddu i’r dim i mi. Nid yn unig ydw i’n gallu gwneud rhywbeth rydw i’n caru gwneud fel swydd, ond ers ymuno â Ballet Cymru rwyf wedi teithio ar hyd a lled y DU, yn ogystal â mynd ar deithiau o amgylch Tsieina, Efrog Newydd a Bermwda yn 2019 a 2020.”
Dawnswyr Eraill
Ballet Cymru yn cydnabod cefnogaeth gan
All Photos Copyright Siân Trenberth oni nodir yn wahanol
Elusen Rhif 1000855 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel Gwent Ballet Theatre Ltd. 02535169.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig: Ballet Cymru, Uned 1, Ystâd Fasnachu Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ Cymru UK